Mae RASASC Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth cwnsela i unrhyw un dros 3 oed sydd wedi dioddef unrhyw fath o drais neu gam-drin rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth cwnsela i ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael eu heffeithio eu hunain drwy gefnogi goroeswyr. Mae ein gwasanaeth cwnsela yn cael ei ddarparu mewn nifer o leoliadau ar draws chwe sir Gogledd Cymru - Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae RASASC Gogledd Cymru yn wasanaeth arbenigol sy’n cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol Rape Crisis Cymru a Lloegr a’r Survivors Trust, ac mae’n aelod sefydliadol o BACP.
Sut mae atgyfeirio.
Llenwch y ffurflen isod a’i chyflwyno, gan gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Mae RASASC Gogledd Cymru yn derbyn atgyfeiriadau a wneir gan weithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a chytundeb yr ymgeisydd. Rhaid i chi roi gwybod i RASASC Gogledd Cymru am unrhyw risgiau i’r cleient neu oddi wrtho rydych chi’n ymwybodol ohonynt.
Cyfrinachedd
- Mae gwasanaethau RASASC Gogledd Cymru yn gyfrinachol, oni bai fod pryderon o ran diogelu, risg uniongyrchol o niwed i’r hunan neu i eraill, neu faterion cyfreithiol
- Mae RASASC Gogledd Cymru yn glynu wrth Bolisïau Cyfrinachedd, Diogelu Data a Diogelu – sydd ar gael ar gais.
Rhaid llenwi’r meysydd sydd â *